AMDANOM NI
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ariannu Chwarae Cymru i ymgymryd â datblygu Gwaith Chwarae Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae yng Nghymru.
Rydym yn gweithio ar draws Cymru gyda darparwyr statudol, gwirfoddol a phreifat i ddatblygu addysg a hyfforddiant hygyrch, o safon ar gyfer pob un sydd â diddordeb yn narpariaeth gwasanaethau chwarae plant.
Mae Gwaith Chwarae Cymru'n gweithio mewn partneriaeth â SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Hamdden Egnïol a Dysgu.
Mae ein amcanion yn ymateb i'r Cytundeb Sgiliau Sector a Hyfforddiant o Safon, Chwarae o Safon, 2006-2011, Strategaeth y DU ar gyfer Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau Gwaith Chwarae.
English